Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cynigion a allai effeithio ar allu ffermwyr Cymru i dyfu a magu cynnyrch bwyd blasus a maethlon y mae pobl wedi’u mwynhau ers cenedlaethau.
Ar adeg pan fo cynhyrchu bwyd o dan bwysau ledled y byd, ni allwn fforddio peryglu cynhyrchu bwyd diogel o safon sy’n cael ei wneud o’r llu o asedau naturiol sydd gennym yng Nghymru, gan gynnwys digonedd o law a glaswellt gwyrdd. Rydyn ni’n credu mai ein bwyd ni yw’r un sydd fwyaf ystyriol o’r hinsawdd yn y byd i gyd.
Nawr yw’r amser i ddangos eich cefnogaeth i ffermwyr Cymru a bwyd o Gymru drwy lofnodi ein deiseb yn gofyn i Lywodraeth Cymru Sicrhau Dyfodol Bwyd o Gymru HEDDIW.
Bydd NFU Cymru yn dweud wrth Lywodraeth Cymru faint o bobl sydd wedi arwyddo deiseb Diogelu Dyfodol Bwyd Cymru/Secure the Future of Welsh Food yr Undeb, ond ni fyddwn yn rhannu eich enw na'ch cyfeiriad e-bost.
